142Uploads
19k+Views
2k+Downloads
Languages
Chwilair - Ar lan y mor
Chwilair gwahaniaethol ar lan y mor - yn addas ar gyfer CA2.
Pa air sydd ar goll? - Nadolig
Taflenni gwaith gwahaniaethol ar thema’r Nadolig. Rhaid i’r plant lenwi’r bwlch a’r gair Nadoligaidd cywir! I blant Blwyddyn 1 a 2.
Bundle
Calan Gaeaf
Grwp o weithgareddau ar gyfer Noson Calan Gaeaf sy’n cynnwys tasg mathemateg (adio), darllen a deall a chwilair. Yn addas ar gyfer plant 7-9 (blwyddyn 2 da, 3 a 4).
Darllen a Deall - Calan Gaeaf
Darn darllen a deall yn seiliedig ar y profion cenedlaethol. Mae’r pecyn yn cynnwys taflen wybodaeth ac yna 2 daflen sy’n gofyn cwestiynau am y daflen wybodaeth.
Perffaith ar gyfer Calan Gaeaf.
Yn addas ar gyfer plant 7-9.
Geiriau Croes
Un ar ddeg set o gardiau lliwgar sy’n cynnwys geiriau croes e.e. araf a chyflym, hen a newydd. Yn ogystal â geiriau croes mae enghreifftiau o eiriau arall gellid defnyddio yn hytrach na’r prif eiriau e.e. hapus > llon, llawen.
Adnodd defnyddiol i helpu plant gyda’i ysgrifennu disgrifiadol.
Yn addas ar gyfer plant 7-11.
Bundle
Y Tymhorau
Casgliad o daflenni gwaith lliwgar ar y Tymhorau sy’n cynnwys chwileiriau ar bob tymor ( wedi eu gwahaniaethu) a matiau geiriau.
Yn addas ar gyfer plant 5-11.
Owain Glyndwr mat geiriau/ word mat
Mat geiriau lliwgar am Owain Glyndwr sy’n cynnwys yr holl geirfa allweddol ynglyn a’i fywyd. Addas ar gyfer plant 7-11.
Colourful word mat about Owain Glyndwr that includes all the key word about his life. Suitable for ages 7-11.
Welsh and English
Geirfa Pel droed
Taflen gwaith sy’n gofyn i’r plant i gyfieithu termau pêl droed Saesneg i’r Gymraeg trwy ymchwilio ar we’r Termiadur Addysg. Yn berffaith ar gyfer Cwpan y Byd 2022 .
Yn addas ar gyfer plant +7.
Eirth
Pwerbwynt syml sy’n son am wahanol eirth y byd. Mae’n cynnwys gwybodaeth syml am eirth polar, brown, du a pandas. Mae’n son am ble maent yn byw a’i hoff fwydydd.
Yn addas ar gyfer plant CA1.
Mat geiriau Llywelyn Ein Llyw Olaf / Word mat Llywelyn the Last
Mat geiriau sy’n cynnwys geirfa pwysig am Llywelyn Ein Llyw Olaf. Teclyn defnyddiol i helpu plant wrth ysgrifennu am Llywelyn.
Perffaith ar gyfer Dydd Llywelyn Ein Llyw Olaf ar Ragfyr 11eg*
Yn addas ar gyfer plant 5-11.
Word map which includes important words about Llywelyn the Last. A useful tool to help children write about Llywelyn.
Perfect for Llywelyn the Last Day on December 11th.
Suitable for 5 -11 year olds.
Llywelyn Ein Llyw Olaf
Casgliad o daflenni gwaith yn seiliedig ar Llywelyn Ein Llyw Olaf. Casgliad yn cynnwys taflen gwybodaeth, taflen gwaith ar goeden deuluol tywysogion Gwynedd a thaflen gwaith ar gestyll sydd wedi eu henwi yn y daflen gwaith. Yn addas ar gyfer CA2.
Perffaith ar gyfer Dydd Llywelyn Ein Llyw Olaf ar Ragfyr 11eg
Meddygon Myddfai
Pwerbwynt am hanes Chwedl Llyn y Fan Fach a Meddygon Myddfai.
Wedi ei gyfieithu o lyfryn ‘Myth and Mystery’ gan Brecon Beacons National Park.
Taflen gwaith ychwanegol gyda chwestiynau yn seiliedig ar y Pwerbwynt.
Yn addas ar gyfer plant 7+
Erthygl Dewi Sant
Erthygl papur newydd ar wyrth fwyaf enwog Dewi Sant i Gyfnod Allweddol 2. Taflen i gyflwyno un o wyrthiau Dewi Sant ac i ymestyn gwybodaeth y disgyblion am rhai o’i wyrthiau arall. Disgyblion i ymchwilio i’w gwyrthiau arall a chreu erthygl eu hun.
Darllen a Deall -Y Fuwch Goch Gota
Taflen darllen a deall yn seiliedig ar y profion cenedlaethol.
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 yn arbennig Blwyddyn 3 a 4.
Darllen a Deall - Pry Cop
Darllen a Deall ar bry cop yn seiliedig ar brofion llythrennedd cenedlaethol Cymru.
Yn addas ar gyfer blant Blwyddyn 3 a 4 Cyfnod Allweddol 2.
Darllen a Deall - Adar
Darllen a Deall ar adar nad ydynt yn gallu hedfan yn seiliedig ar brofion llythrenned cenedlaethol Cymru.
Yn addas ar gyfer plant Blwyddyn 3 a 4 Cyfnod Allweddol 2.
Chwilair - Creaduriaid y mor
Dau chwilair wedi eu gwahaniaethu am greaduriaid y mor
Yn addas ar gyfer plant 6 - 11.
Chwilair - Anifeiliaid Affrica
Dau chwilair wedi eu gwahaniaethu ar anifeiliaid Affrica.
Yn addas ar gyfer plant 6 -11.
Adeiladau enwog
Gwaith darllen a deall ar rai o adeiladau enwocaf y byd.
Yn addas ar gyfer plant Blwyddyn 5 a 6.
Synhwyrau - Y Gwanwyn
Taflenni gwaith wedi eu gwahaniaethu ar sut mae’r Gwanwyn yn effeithio’n synhwyrau.
Yn addas i blant y Cyfnod Sylfaen.