144Uploads
23k+Views
2k+Downloads
Languages
Chwilair Ser Cwpan y Byd
Chwilair am rai o brif sêr y byd pêl droed bydd yn chwarae yng Nghwpan y Byd Qatar 2022.
Yn addas ar gyfer plant 7+.
Chwilair Gwledydd Cwpan y Byd 2022
Chwilair sy’n cynnwys yr holl wledydd sy’n cymryd rhan yng Nghwpan y Byd 2022.
Yn addas ar gyfer plant 7+.
Bundle
Cwpan y Byd Qatar 2022
Casgliad o adnoddau ar gyfer gwaith ar Gwpan y Byd 2022. Pecyn yn cynnwys llyfryn gwaith ( lliwio baneri’r gwledydd a dod o hyd i ychydig o wybodaeth am bob gwlad), chwilair am rai o brif sêr y gystadleuaeth ac chwilair am y gwledydd sy’n cymryd rhan.
Yn addas ar gyfer plant 7+.
Llyfryn Gwaith Cwpan y Byd 2022
Llyfryn gwaith ar Gwpan y Byd 2022 sy’n cynnwys tasg ar bob grŵp - lliwio baner, dod o hyd i wybodaeth benodol am y wlad sef prif iaith, prifddinas a pha gyfandir.
Tasg berffaith i roi i blant sydd wedi gorffen ei gwaith neu fel prosiect ar Gwpan y Byd.
Yn addas ar gyfer plant 7-11.
Her Tablau - Lliwio
Gweithgaredd sy’n cynnwys 4 taflen wahaniaethol ar dablau. Plant i weithio allan yr atebion ac yna lliwio’r siapiau yn ol y cod. Amrediad o daflenni o rai mwy heriol i rai mwy syml.
Yn addas ar gyfer plant 7+.
Her Tablau
Taflenni gwaith gwahaniaethol ar dablau. Un gyda 60 cwestiwn yr ail gyda 30,
Yn addas ar gyfer plant 7+.
Poster/Mat Atalnodi
Taflen gall cael ei ddefnyddio fel poster neu fat gwaith i helpu plant deall y gwahanol fathau o atalnodi.
Yn addas ar gyfer plant 7+.
Stori Babwshca a'r Tri Gwr Doeth
Addasiad o chwedl o Rwsia am Babwshca a’r Tri Gwr Doeth.
Owain Glywndwr Word search
A word search about Owain Glyndwr including important words such as Machynlleth, Sycharth, army, law, Henry etc. Suitable for children 7+.
PERFECT FOR OWAIN GLYNDWR DAY ON SEPTEMBER 16TH
Terfysgoedd Llanelli
Pwerbwynt sy’n disgrifio’r terfysgoedd a gymerodd le yn Llanelli yn 1911.
Yr Hen Destament
Cyfres o weithgareddau ar dri stori o’r Hen Destament - Noa, Joseff a Moses. Taflenni yn addas ar gyfer plant blwyddyn 1 i fyny yn dibynnol ar gallu.
Bundle
Calan Gaeaf
Grwp o weithgareddau ar gyfer Noson Calan Gaeaf sy’n cynnwys tasg mathemateg (adio), darllen a deall a chwilair. Yn addas ar gyfer plant 7-9 (blwyddyn 2 da, 3 a 4).
Darllen a Deall - Calan Gaeaf
Darn darllen a deall yn seiliedig ar y profion cenedlaethol. Mae’r pecyn yn cynnwys taflen wybodaeth ac yna 2 daflen sy’n gofyn cwestiynau am y daflen wybodaeth.
Perffaith ar gyfer Calan Gaeaf.
Yn addas ar gyfer plant 7-9.
Geiriau Croes
Un ar ddeg set o gardiau lliwgar sy’n cynnwys geiriau croes e.e. araf a chyflym, hen a newydd. Yn ogystal â geiriau croes mae enghreifftiau o eiriau arall gellid defnyddio yn hytrach na’r prif eiriau e.e. hapus > llon, llawen.
Adnodd defnyddiol i helpu plant gyda’i ysgrifennu disgrifiadol.
Yn addas ar gyfer plant 7-11.
Bundle
Y Tymhorau
Casgliad o daflenni gwaith lliwgar ar y Tymhorau sy’n cynnwys chwileiriau ar bob tymor ( wedi eu gwahaniaethu) a matiau geiriau.
Yn addas ar gyfer plant 5-11.
Geirfa Pel droed
Taflen gwaith sy’n gofyn i’r plant i gyfieithu termau pêl droed Saesneg i’r Gymraeg trwy ymchwilio ar we’r Termiadur Addysg. Yn berffaith ar gyfer Cwpan y Byd 2022 .
Yn addas ar gyfer plant +7.
Eirth
Pwerbwynt syml sy’n son am wahanol eirth y byd. Mae’n cynnwys gwybodaeth syml am eirth polar, brown, du a pandas. Mae’n son am ble maent yn byw a’i hoff fwydydd.
Yn addas ar gyfer plant CA1.
Mat Geiriau Santes Dwynwen
Mat geiriau lliwgar sy’n helpu plant i ysgrifennu am Santes Dwynwen. Geirfa yn cynnwys holl brif gymeriadau’r stori yn ogystal a phrif eirfa arall y stori. Yn addas at blant 5-11.
Ffram Ysgrifennu Nadolig
Fframiau ysgrifennu ar gyfer gweithgareddau Nadolig. Yn addas ar gyfer plant 6-11.
Cerdd Acrostig - Gwanwyn
Taflen waith ar gyfer ysgrifennu cerdd acrostig ar y Gwanwyn.
Yn addas i blant 6 -11.