Pwy yn y byd ydw i?
Share
Pwy yn y byd ydw i?
https://www.tes.com/magazine/archive/pwy-yn-y-byd-ydw-i
Rwy’n mwynhau’r cyfnod yma gyda’r cyfarfodydd rhieni, adroddiadau i’w hysgrifennu a holl baratoadau’r cyngerdd Nadolig, y carolau a’r partion! Fyddai hi ddim yn Dolig hebddyn nhw. Felly, pa rol fydd gen i rhwng nawr a’r Dolig? O ystyried sut mae hi ddechrau’r tymor, mi fyddai’n chwarae pob un rhan yn y panto fwy neu lai!
Fe fyddai’n weithiwr cymdeithasol yn helpu teuluoedd ag anghenion dybryd.
Fe fyddai’n mynychu cyfarfodydd i roi tystiolaeth, yn gwneud asesiadau risg, yn cwrdd a’r plant, y rhieni a gweithwyr cymdeithasol ac yn cefnogi plant mewn angen pan fo’n bosib.
Fe fyddai’n swyddog personel ac yn ceisio gweithredu’r cytundeb llwyth gwaith -heb adnoddau digonol. Fe fyddai’n ceisio creu amser digyswllt a chefnogaeth addas i’r athrawon, yn cynnal cyfarfodydd adolygu perfformiad, yn ystyried ceisiadau trothwy, yn cyfweld a phenodi staff newydd ac yn y blaen.
Fe fyddai’n fiwrocrat ac yn llenwi ffurflenni o bob math ar gyfer yr awdurdod addysg lleol, llywodraeth y Cynulliad ac Estyn. Mae pawb yn gofyn am yr un manylion ond mewn fformat gwahanol - er mwyn ein cadw ni ar flaenau’n traed!
Wrth gwrs bydd gofyn i mi roi fy sgiliau cymorth cyntaf ar waith wrth i mi ddelio a man grafiadau a digwyddiadau mwy difrifol. Mi wna i’n siwr bod pob gofal yn cael ei gymryd a bod y gwaith papur yn ei le.
A dyna i chi fy sgiliau fel ditectif, plismon a barnwr wrth ddelio ag achos y bocs brechdanau diflanedig a’r dillad sydd wedi eu dwyn! Rhaid dod o hyd i’r troseddwyr a dewis cosb addas. Mae’n broblem pan nad oes neb yn gwybod pwy sydd ar fai ond y rhieni’n mynnu bob rhywbeth yn cael ei wneud.
Dydw i ddim wedi son am baratoi ar gyfer y cyngerdd Dolig, y partion a’r gwasanaeth carolau, am gyllid a chlustnodi arian, dysgu a rheoli’r cwricwlwm.
Dwi’n mwynhau fy ngwaith yn fawr iawn ac yn cael llawer o bleser wrth weld y plant yn datblygu ac yn llwyddo. Ond dwi ddim yn siwr beth yn union ydw i. Efallai y gall rhywun sy’n teimlo’r un fath fy helpu i adnabod fy hun.
Terry Williams yw Pennaeth Ysgol Gynradd Litchard, Pen-y-bont ar Ogwr
You've reached your limit of free articles this month. Subscribe for £1 per month for three months and get: